Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a

fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: 4 Tachwedd 2021

Amser: 09.15 - 13.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12479


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Russell George AS (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AS

Gareth Davies AS

Mike Hedges AS

Jack Sargeant AS

Joyce Watson AS

Tystion:

Emrys Elias, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Alex Howells, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Julie Rogers, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Sue Evans, Social Care Wales

Sarah McCarty, Social Care Wales

Staff y Pwyllgor:

Helen Finlayson (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Evan Jones (Dirprwy Glerc)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

Sarah Hatherley (Ymchwilydd)

Rebekah James (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn graffu ar ôl penodi gyda'r Cadeirydd dros dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Emrys Elias, Cadeirydd dros dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

 

2.2 Cytunodd Mr Elias i ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y mae'n bwriadu gwella’r broses o rannu gwybodaeth a chyfathrebu â chleifion, a sut y bydd yn gwella’r gwasanaethau a ddarperir i bobl leol yn rhanbarth Cwm Taf, yn enwedig y rhai sy’n rhan o’r grwpiau anoddaf i'w cyrraedd, a’r rhai sy’n rhan o grwpiau llai ffit a llai iach.

 

 

</AI2>

<AI3>

3       Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch y gweithlu gofal cymdeithasol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

3.2 Cytunodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu papur briffio i'r Pwyllgor ynghylch yr ymgyrch recriwtio ‘Gofalwn Cymru’, ynghyd â manylion ynghylch yr adnoddau cenedlaethol sydd ar gael drwy'r strategaeth ar gyfer cefnogi llesiant staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

         

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

</AI4>

<AI5>

4.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â gwaith craffu pwyllgorau'r Senedd ar fframweithiau cyffredin

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

</AI5>

<AI6>

4.2   Llythyr gan Awdurdod Ystadegau'r DU ynghylch cyhoeddi ei adroddiad: Gwella ystadegau iechyd a gofal cymdeithasol: y gwersi a ddysgwyd o bandemig COVID-19

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI6>

<AI7>

4.3   Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Canolfan Ganser arfaethedig Felindre

4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI7>

<AI8>

4.4   Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Canolfan Ganser arfaethedig Felindre

4.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

</AI8>

<AI9>

4.5   Llythyr at y Cadeirydd gan Pancreatic Cancer UK

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI9>

<AI10>

4.6   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal

</AI10>

<AI11>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI11>

<AI12>

6       Sesiwn graffu ar ôl penodi: trafod y dystiolaeth

</AI12>

<AI13>

7       Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol: trafod y dystiolaeth

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac undebau llafur perthnasol i ofyn am wybodaeth ychwanegol ynghylch nifer o bwyntiau.

 

</AI13>

<AI14>

8       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal: trafod y dystiolaeth ysgrifenedig

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law a nododd fod y Pwyllgor Busnes wedi awgrymu ei fod yn bwriadu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r estyniad yn ddigon hir i ganiatáu iddo ofyn am dystiolaeth bellach, y byddai'n ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth ychwanegol.

</AI14>

<AI15>

9       Adferiad COVID-19

9.1 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi nodiadau ynghylch y materion a drafodwyd ar dudalen we'r Pwyllgor, a chytunodd i rannu'r nodiadau hynny gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

</AI15>

<AI16>

10    Blaenraglen waith

10.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer gweddill tymor yr hydref.

</AI16>

<AI17>

11    Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: dull o graffu

11.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

</AI17>

<AI18>

12    Ymchwiliad i lif cleifion: trafod dulliau

12.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddulliau gweithredu mewn perthynas â'r ymchwiliad i lif cleifion.

</AI18>

<AI19>

13    Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: trafod y dull

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>